‘Rwy’n dy garu, ti a’i gwyddost,
‘rwy’n dy garu, f’Arglwydd mawr;
‘rwy’n dy garu yn anwylach
na’r gwrthrychau ar y llawr:
darllen yma
ar fy ysbryd waith dy law.
Fflam o dân o ganol nefoedd
yw, ddisgynnodd yma i’r byd,
tân a lysg fy natur gyndyn,
tân a leinw f’eang fryd:
hwn ni ddiffydd
tra parhao Duw mewn bod.
Ble’r enynnodd fy nymuniad?
Ble cadd fy serchiadau dân?
Ble daeth hiraeth im am bethau
fûm yn eu casáu o’r blaen?
Iesu, Iesu,
cwbwl ydyw gwaith dy law.
Dymuniadau pell eu hamcan
‘rwy’n eu teimlo yno’i ;
dacw’r ffynnon bur tarddasant –
anfeidroldeb mawr ei hun:
dyma ‘ngobaith
bellach byth y cânt barhau.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 315;Y Llawlyfr Moliant Newydd: 513)
PowerPoint