Pennill 1
Mae ‘na gryfder yn y tristwch
A hyfrydwch yn ein cri
Ti’n dod atom yn ein galar
Gyda chariad trech nag ofn
Pennill 2
Rwyt yn gweithio yn ein haros
Rwyt ti’n sancteiddio ni
Ti’n ein dysgu i ymddiried
Tu hwnt i’n deall ni
Cytgan
Dy gynllun yw ein ffyniant
Ti heb ein hanghofio ni
Ti’n gwmni yn y lli’ ac yn y tân
Dy gariad sy’n berffaith, ffyddlon am byth
Rwyt yn sofran drosom ni
Pennill 3
Rwyt yn ddoeth tu hwnt i ’mreuddwyd
Pwy all ddeall dy holl ffyrdd
O dy orsedd yn y nefoedd
Yn estyn atom yn dy ras
Pennill 4
Ti sy’n codi y rhai isel
Trugarog wyt a hael
Yn amgylchynu a fy nghynnal
Mae d’addewidion di yn hyfryd im
Cytgan (X2)
Pont (X2)
Hyd ‘n oed pan mae’r gelyn yn cynllwynio
Ti’n ei droi e’ er ein lles
Yn ei droi e’ er ein lles
Ac er d’ogoniant
Hyd ‘n oed yn y dyffryn Ti sy’n ffyddlon
Ti’n gweithio er ein lles
Yn gweithio er ein lles
Ac er dy ogoniant
Cytgan
Diweddglo
Dy gariad sydd berffaith, ffyddlon am byth
Rwyt yn sofran drosom ni
Rwyt yn Sofran Drosom Ni
Sovereign Over Us (Aaron Keyes, Brian Brown, Jack Mooring)
Cyfieithiad awdurdodedig: Arwel E. Jones
© 2011 Jack Mooring Music (Gwein. gan Capitol CMG Publishing)
Meaux Jeaux Music (Gwein. gan Capitol CMG Publishing)
Thankyou Music (Gwein. gan Integrity Music)
worshiptogether.com songs (Gwein. gan Integrity Music)
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint