Disgwyl bûm i wrth fy Nuw
Ac yna plygodd ataf,
Cododd fi o’r mwd a’r baw
Mae ‘nhraed ar graig: ni faglaf.
Rhoddodd yn fy nghalon gân
O fawl i’n Duw goruchaf.
Bydd llawer un, pan welant hyn,
Yn ofni Duw o’r newydd,
Gwyn ei fyd yr un sy’n wir
Ymddiried yn yr Arglwydd.
Ni wnaiff droi at bobl falch
Sy’n brolio a dweud celwydd.
Gymaint wnaethost, Arglwydd Dduw,
O bethau mawr rhyfeddol,
I gyflawni’th fwriad ynom:
Ni all neb dy rwystro!
Mynnaf sôn amdanynt oll,
Ond alla’i byth eu rhifo.
Nid gofyn am boethoffrwm wyt
Nac aberth dros bechodau,
Dyma fi yn dod, fy Nuw,
Agoraist ti fy nghlustiau.
Eisiau gwneud d’ewyllys wyf;
Dw i’n byw yn ôl dy ddeddfau.
Wrth dy bobl, heb ddal nôl
Dw i’n dweud mai ti sy’n gyfiawn,
Ti sy’n gadarn, ti sy’n achub,
Ti sy’n gwbl ffyddlon.
Tyrd, tosturia wrthyf nawr,
A’m cadw rhag peryglon.
Geiriau: Cass Meurig (addasiad o Salm 40: 1-11)
Tôn: Titrwm Tatrwm (tradd)