O Arglwydd Dduw, ein brenin nefol
Mae d’enw di mor fawr ryfeddol
Ardderchog wyt dros dir a moroedd
Gosodaist d’ogoniant uwch y nefoedd
O, Dad annwyl, O, frenin sanctaidd
Mor fawr yw dy enw di, Amen
Fe godaist noddfa rhag d’elynion
 lleisiau plant, nid arfau cryfion
Sŵn baban bach ar fron yn gorwedd
Dawelodd y gelyn a’i ddialedd
Wrth edrych fry i ddyfnder gofod
Holl waith dy fysedd sy’n ryfeddod
Lloer, sêr, planedau yn disgleirio
Pa beth yw dyn i ti ei gofio?
Ond gwnaethost ti y teulu dynol
Ychydig is na’r bodau nefol
Coronaist ni â’th nefol fawredd
A phob ysblander ac anrhydedd
Rhoist waith arbennig i’r ddyniolaeth:
Gofalu am dy greadigaeth:
Holl greaduriaid tir a nefoedd
A rhai sy’n teithio llwybrau’r dyfroedd
Geiriau: Salm 8, addas. Cass Meurig
Tôn: Cainc yr Aradwr (tradd.)