logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Sanctaidd am Byth

Pennill 1
Mae mil o genedlaethau yn plygu mewn addoliad
I ganu cân yr oesoedd nawr i’r Oen
Bu pawb a fu o’n blaen ni
A bydd pob un a gred
Yn canu cân yr oesoedd nawr i’r Oen

Rhag-gorws
Dy enw yw’r uchaf
Dy enw yw’r mwyaf
Dy enw sydd uwchlaw pob un
Pob gorsedd, pob arglwydd
Pob safle, pob pŵer
Dy enw sydd uwchlaw pob un

Corws 1
Cân yr engyl yw – Sanctaidd
Cana’r cread oll – Sanctaidd
Dyrchafedig wyt – Sanctaidd
(Yn) Sanctaidd byth bythoedd

Pennill 2
(Os) gefaist ti dy faddeuant, os fe’th achubwyd di
Cana gân o fawl am byth i’r Oen
Os wyt nawr mewn rhyddid, gan gario’i enw Ef
Cana gân o fawl am byth i’r Oen
Fe ganwn gân am byth a dweud amen

Corws 1
Cân yr engyl yw – Sanctaidd
Cana’r cread oll – Sanctaidd
Dyrchafedig wyt – Sanctaidd
(Yn) Sanctaidd byth bythoedd

Corws 2
Cân Dy bobl yw – Sanctaidd
Iôr Brenhinoedd wyt – Sanctaidd
Byddi Di am byth – (yn) Sanctaidd
(Yn) Sanctaidd byth bythoedd

Rhag-gorws (X2)
Dy enw yw’r uchaf
Dy enw yw’r mwyaf
Dy enw sydd uwchlaw pob un
Pob gorsedd, pob arglwydd
Pob safle, pob pŵer
Dy enw sydd uwchlaw pob un

Corws 1
Cân yr engyl yw – Sanctaidd
Cana’r cread oll – Sanctaidd
Dyrchafedig wyt – Sanctaidd
(Yn) Sanctaidd byth bythoedd

Corws 2
Cân Dy bobl yw – Sanctaidd
Iôr Brenhinoedd wyt – Sanctaidd
Byddi Di am byth – (yn) Sanctaidd
(Yn) Sanctaidd byth bythoedd

Tag
Byddi Di am byth – yn Sanctaidd
(Yn) Sanctaidd byth bythoedd

Sanctaidd am Byth
Holy Forever (Brian Johnson, Chris Tomlin, Jason Ingram, Jenn Johnson a Phil Wickham
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E Jones
© 2022 Phil Wickham Music; Simply Global Songs; Capitol CMG Paragon; S. D. G. Publishing; Be Essential Songs; My Magnolia Music; Bethel Music Publishing; Brian and Jenn Publishing
(Gwein. Capitol CMG Publishing, Essential Music Publishing LLC, Song Solutions)
CCLI 7253957

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • April 16, 2025