Sefyll wnawn
Gyda’n traed ar y graig.
Beth bynnag ddywed neb,
Dyrchafwn d’enw fry.
A cherdded wnawn
Drwy’r dywyllaf nos.
Cerddwn heb droi byth yn ôl
I lewych disgiair ei gôl.
Arglwydd, dewisaist fi
I ddwyn dy ffrwyth,
I gael fy newid ar
Dy lun di.
Rwy’n mynd i frwydro ’mlaen
Nes i mi weld dy wyneb di.
Arglwydd, yn dystion
Fe’n penodaist ni.
A gyda’th Ysbryd fe’n
Heneiniaist.
Felly fe frwydraf ’mlaen
Nes i mi weld dy wyneb di.
We shall stand, Graham Kendrick. Cyfieithiad awdurdodedig: Catrin Alun
Hawlfraint © 1988 Make Way Music. Sicrhawyd Hawlfraint Rhyngwladol. Cedwir pob hawl.
Cyfeithiad Awdurdodedig © 1991 Make Way Music.Defnyddir trwy ganiatâd.
(Grym Mawl 1: 176)
PowerPoint