Sicrwydd bendigaid! Iesu yn rhan,
Hyn ydyw ernes nef yn y man;
Aer iachawdwriaeth, pryniant a wnaed,
Ganed o’r Ysbryd, golchwyd â’i waed.
Dyma dy stori, dyma fy nghân,
Canmol fy Ngheidwad hawddgar a glân;
Dyma dy stori, dyma fy nghân,
Canmol fy Ngheidwad hawddgar a glân.
Ildio’n ddiamod, perffaith fwynhad,
Profi llawenydd nefol ryddhad;
Engyl yn disgyn, dygant i’m clyw
Adlais trugaredd, cariad fy Nuw.
Ildio’n ddiamod, dyna fy hedd,
Allwedd fy nghysur, Iesu a’i medd;
Aros a disgwyl, disgwyl bob dydd
Llonni yng nghariad Arglwydd y ffydd.
Frances J. Van Alstyne, 1820-1915 cyf. Gwilym R. Tilsley © y geiriau Cymraeg, Gareth M. Tilsley
(Caneuon Ffydd: 396)
PowerPoint