I Dduw bo’r gogoniant, fe wnaeth bethau mawr, rhoi’i Fab o’i fawr gariad dros holl deulu’r llawr, rhoi’i einioes yn Iawn dros ein pechod a wnâi, gan agor drws bywyd i bawb er eu bai. Clod i Dduw! Clod i Dduw! Clywed daear ei lef! Clod i Dduw! Clod i Dduw! Llawenhaed tyrfa gref! O […]
I Dduw bo’r gogoniant! Mawr bethau a wnaeth! Cans carodd a rhoddodd ei Fab dros y caeth; Rhoes yntau ei fywyd yn iawn dros ein bai, Agorodd borth Bywyd i bawb yn ddi-lai. Clod i Dduw! Clod i Dduw! Aed trwy’r ddaear ei lef! Clod i Dduw! Clod i Dduw! Llawenhaed tyrfa gref! O! dewch […]
Sicrwydd bendigaid! Iesu yn rhan, Hyn ydyw ernes nef yn y man; Aer iachawdwriaeth, pryniant a wnaed, Ganed o’r Ysbryd, golchwyd â’i waed. Dyma dy stori, dyma fy nghân, Canmol fy Ngheidwad hawddgar a glân; Dyma dy stori, dyma fy nghân, Canmol fy Ngheidwad hawddgar a glân. Ildio’n ddiamod, perffaith fwynhad, Profi llawenydd nefol ryddhad; […]
Wel dyma hyfryd fan i droi at Dduw, lle gall credadun gwan gael nerth i fyw: fry at dy orsedd di ‘rŷm yn dyrchafu’n cri; O edrych arnom ni, a’n gweddi clyw! Ddiddanydd Eglwys Dduw, ti Ysbryd Glân, sy’n llanw’r galon friw â mawl a chân, O disgyn yma nawr yn nerth dy allu mawr; […]