Suai’r gwynt, suai’r gwynt
wrth fyned heibio i’r drws;
a Mair ar ei gwely gwair
wyliai ei baban tlws:
syllai yn ddwys yn ei ŵyneb llon,
gwasgai Waredwr y byd at ei bron,
canai ddiddanol gân:
“Cwsg, cwsg, f’anwylyd bach,
cwsg nes daw’r bore iach,
cwsg, cwsg, cwsg.
“Cwsg am dro, cwsg am dro
cyn daw’r bugeiliaid hyn;
a dod, dod i seinio clod,
wele mae’r doethion syn:
cwsg cyn daw Herod â’i gledd ar ei glun,
cwsg, fe gei ddigon o fod ar ddi-hun,
cwsg cyn daw’r groes i’th ran:
cwsg, cwsg, f’anwylyd bach,
cwsg nes daw’r bore iach,
cwsg, cwsg, cwsg”.
NANTLAIS, 1874-1959 (© Yr Athro S. Nantlais Williams. Defnyddir drwy ganiatâd.)
(Caneuon Ffydd 471)
PowerPoint