Syrthiwn wrth dy draed, a’th addoli di,
Ti yw’r Oen a laddwyd ac sydd eto’n fyw.
Grym dy Ysbryd di sy’n ein denu ni,
Clywn dy lais yn datgan buddugoliaeth lwyr.
Fi yw’r un gyfododd, bu’m farw ac rwy’n fyw,
Ac wele rwyf yn fyw’n oes oesoedd mwy.
Gwelwn di o’n blaen; gwallt yn wyn fel gwlan
Yn dy ddisglair wisg mor sanctaidd ydwyt ti.
Llygaid fel y fflam, traed fel prês mewn ffwrn,
Ac mae sŵn dy lais fel dyfroedd llawn eu lli’.
Disgiair fel yr haul yw dy wyneb glân;
Mor rhyfeddol yw dy harddwch Fab y dyn.
Deli’n dy law dde, saith o sêr y ne’
Ac o’th enau fe ddaw cledd daufiniog llym.
Cyfieithiad Cymraeg Awdurdodedig: Arfon Jones
(At your feet we fall, David Fellingham)
Hawlfraint © 1982 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. Gan worshiptogether.com songs
ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music (tym@kingsway.co.uk)
Defnyddir trwy ganiatâd
(Grym Mawl 1: 14)
PowerPoint