logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Taw, fy enaid taw

Pennill 1
Taw, fy enaid taw,
Nac ofna di
Os rhua gwynt newidiaeth ’fory;
Duw – mae’n dal dy law,
Paid dychryn mwy
Rhag fflamau tristwch dwys, dirybudd.

Cytgan
Dduw, Ti yw fy Nuw,
Ymddiried Ynot wnaf ac ni’m symudir;
Iôr ein hedd, rho im
Ysbryd diwyro yn fy mron,
I bwyso arnat Ti.
[Rwy’n pwyso arnat Ti]

Pennill 2
Taw, fy enaid taw,
Paid cael dy ddal
Gan lewyrch llai a gwib cysgodion.
Dal di at Ei ffyrdd
 tharian ffydd
Yn erbyn saethau tanbaid Satan.

Pennill 3
Taw, fy enaid taw,
Paid cefnu ar
Y Gwir a brofaist ti wrth gredu.
Disgwyl wrth yr Iôr –
Daw gobaith clir
Fel disglair sêr wrth iddi nosi.

Taw, fy enaid taw
Still, my soul be still, Keith Getty | Kristyn Getty | Stuart Townend (Cyf. Linda Lockley)
© 2008 Thankyou Music (Gwein. gan Integrity Music)

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • March 3, 2021