Dan gysgod croes yr Iesu Mae lle i wella ‘nghlwyf; Rhyfeddol yw’r drugaredd A’m galwodd fel yr wyf. Mae’r dwylo ddylai’m gwrthod  chlwyfau sy’n gwahodd; Dan gysgod croes yr Iesu Mae f’enaid wrth ei fodd. Dan gysgod croes yr Iesu Rwy’n un â’i deulu Ef; Pob un fu’n ceisio’r hunan, nawr Sy’n un trwy […]
Dewch, bobl Crist, cyfododd ef, Canwn fawl i’n brenin byw. Yn gôr fe seiniwn gân o glod I’n Harglwydd ni a’n Duw. Lan o’r ddaear las i’r nefoedd wen Codwn ein hedrychiad fry, Ei freichiau sydd yn estyn mas I’n cynorthwyo ni. Rhown glod! Rhown glod! Pob tafod, dewch, rhown glod ! Un llais, Un gân […]
Fe welwn orsedd fry Uwch pob un gorsedd sy’, Lle daw un dydd y ffyddlon rai O bob un gwlad; Gerbron y Mab cawn ddod, Heb fai trwy waed yr Oen; Drwy ffydd daw’r gras addawodd Ef I ni’n iachád. Clywch leisiau’r nef ar gân; Eu hanthem seinia’n lân; Drwy’r llysoedd fry ar nefol dôn […]
I’w liniau cwympodd Brenin nef Tra’n dioddef gofid mawr, Goleuni’r byd yn chwysu gwaed Yn ddafnau ar y llawr. Pa erchyllterau welodd Ef Yn unig yn yr ardd: ‘O cymer Di y cwpan hwn’, Ond gwnaf d’ewyllys Di Ond gwnaf d’ewyllys Di. I wybod byddai ffrindiau’n ffoi A’r nef yn dawel iawn, Yng Nghalfarî roedd […]
O! Dyma fore, llawen a disglair, A gobaith yn gwawrio’n Jerwsalem; Carreg symudwyd, gwag oedd y bedd, Wrth i angel gyhoeddi, ‘Cyfodwyd’! Gweithredwyd gynllun Duw Cariad yw, Croes ein Crist Aberth pur ei waed Cyflawnwyd drosom ni, Mae E’n fyw! Atgyfododd Crist o’r bedd! Mair oedd yn wylo, ‘Ble mae fy Arglwydd?’ Mewn tristwch y […]
Pennill 1 Taw, fy enaid taw, Nac ofna di Os rhua gwynt newidiaeth ’fory; Duw – mae’n dal dy law, Paid dychryn mwy Rhag fflamau tristwch dwys, dirybudd. Cytgan Dduw, Ti yw fy Nuw, Ymddiried Ynot wnaf ac ni’m symudir; Iôr ein hedd, rho im Ysbryd diwyro yn fy mron, I bwyso arnat Ti. [Rwy’n […]
Ysbryd Duw, tyrd chwytha arna’i nawr, Bywyd newydd rho i’m henaid i. Tyrd ac adnewydda ’nghalon friw Gyda phresenoldeb f’Arglwydd byw. Gwna i’th Air fywiogi mywyd i, Rho i’m ffydd i weld Dy law ar waith. Gwna fi’n danbaid dros dy burdeb llwyr, Ysbryd Duw tyrd, chwytha arna i. Ysbryd Duw, cartrefa ynof fi, Dangos […]