Teilwng, mae Iesu’n deilwng,
Mae ei weithredoedd ef
yn gyfiawn ac yn dda.
Addfwyn, mae Iesu’n addfwyn,
Mae’n maddau beiau lu
a’i gariad sy’n ddi-drai.
Clodforaf nawr yr enw mwyaf un,
Ymunwch i foli sanctaidd Fab y dyn.
Tragwyddol a fydd y gân,
Tragwyddol a fydd y gân,
Tragwyddol a fydd y gân,
Tragwyddol a fydd y gân.
Ffyddlon, mae Iesu’n ffyddlon,
I’w addewidion oll,
’does debyg iddo ef.
Cyfiawn, mae’n gwbl gyfiawn,
Ac agos yw at bawb sy’n
gwrando ar ei lef.
Cyfieithiad Awdurdodedig :Arfon Jones, Worthy, the Lord is worthy: Ian White
Hawlfraint © 1986 Little Misty Music/ Gwein. gan Kingsway Music
tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd
(grym mawl 1: 188)
PowerPoint