Ti Arglwydd nef a daear,
bywha’n calonnau gwyw,
dysg in gyfrinach marw,
dysg in gyfrinach byw.
Rho glust i glywed neges
dy fywyd di dy hun;
rho lygad wêl ei gyfle
i wasanaethu dyn.
Gogoniant gwaith a dioddef,
a hunanaberth drud,
lewyrcho ar ein llwybrau
tra byddom yn y byd.
Boed hunan balch ein calon
yn gwywo’n d’ymyl di,
a’n bywyd yn egluro
marwolaeth Calfarî.
MOELWYN, 1866-1944
(Caneuon Ffydd 829)
PowerPoint