Tôn: Elliot (Caneuon Ffydd 219)
Yn wylaidd trown atat, ein Harglwydd,
i ddiolch am allwedd i’th wledd,
y wledd a bar’towyd i ddeiliaid
sy’n chwennych dy gariad a’th hedd;
pan lethwn dan bwysau gofalon,
fe ddeui i’w cario o’th fodd;
yn nyddiau o golled a hiraeth
estynni dy gysur yn rhodd.
Yn eiddgar trown atat, wrth gofio
dy fod yn ddi-hun er ein mwyn,
dy lygaid yn gwylio ein camre
a’th fron yn agored i’n cwyn;
dy ddwylo sy’n barod â’u nodded,
a’th freichiau sy’n cyrraedd pob un
a grwydrodd o’r gorlan a luniaist
i gadw dy blant yn gytûn.
Yn llawen trown atat i ddiolch
am Iesu, y Drws nad yw’n cau;
ein cymell a wna i ddod atat,
a thrwyddo ein ffydd sy’n dyfnhau;
rhown foliant i Ti am y gofal
sy’n llifo fel ewyn ar don,
gan arllwys bendithio dihafal
mor rasol ar friwiau ein bron.
Alice Evans. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
PowerPoint