Tyrd atom ni, O Grëwr pob goleuni,
tro di ein nos yn ddydd;
pâr inni weld holl lwybrau’r daith yn gloywi
dan lewyrch gras a ffydd.
Tyrd atom ni, O Luniwr pob rhyw harddwch,
rho inni’r doniau glân;
tyn ni yn ôl i afael dy hyfrydwch
lle mae’r dragwyddol gân.
Tyrd atom ni, Arweinydd pererinion,
dwg ni i ffordd llesâd;
tydi dy hun sy’n tywys drwy’r treialon,
O derbyn ein mawrhad.
Tyrd atom ni, O Dad ein Harglwydd
Iesu, i’n harwain ato ef;
canmolwn fyth yr hwn sydd yn gwaredu,
bendigaid Fab y nef.
W. RHYS NICHOLAS, 1914-96 © Richard E. Huws
(Caneuon Ffydd: 222)
PowerPoint