Un a gefais imi’n gyfaill,
pwy fel efe!
Hwn a gâr yn fwy nag eraill,
pwy fel efe!
Cyfnewidiol ydyw dynion
a siomedig yw cyfeillion;
hwn a bery byth yn ffyddlon,
pwy fel efe!
F’enaid, glŷn wrth Grist mewn cyni,
pwy fel efe!
Ffyddlon yw ymhob caledi,
pwy fel efe!
Os yw pechod yn dy ddrysu,
anghrediniaeth am dy lethu,
hwn a ddichon dy waredu,
pwy fel efe!
Dy gamweddau a ddilea,
pwy fel efe!
Dy elynion oll, fe’u maedda,
pwy fel efe!
Cei bob bendith iti’n feddiant,
hedd a chariad a’th ddilynant,
Crist a’th arwain i ogoniant,
pwy fel efe!
MARIANNE NUNN (There’s a friend above all others), 1778-1847 efel. PEDR FARDD, 1775-1845
(Caneuon Ffydd 368)
PowerPoint