logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Clywch lu’r nef yn seinio’n un

Clywch lu’r nef yn seinio’n un, henffych eni Ceidwad dyn: heddwch sydd rhwng nef a llawr, Duw a dyn sy’n un yn awr. Dewch, bob cenedl is y rhod, unwch â’r angylaidd glod, bloeddiwch oll â llawen drem, ganwyd Crist ym Methlehem: Clywch lu’r nef yn seinio’n un, henffych eni Ceidwad dyn! Crist, Tad tragwyddoldeb […]


Cyn llunio’r byd, cyn lledu’r nefoedd wen,

Cyn llunio’r byd, cyn lledu’r nefoedd wen, cyn gosod haul na lloer na sêr uwchben, fe drefnwyd ffordd yng nghyngor Tri yn Un i achub gwael, golledig, euog ddyn. Trysorwyd gras, ryw annherfynol stôr, yn Iesu Grist cyn rhoddi deddf i’r môr; a rhedeg wnaeth bendithion arfaeth ddrud fel afon gref, lifeiriol dros y byd. […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015

Cysegrwn flaenffrwyth dyddiau’n hoes

Cysegrwn flaenffrwyth dyddiau’n hoes i garu’r hwn fu ar y groes, mae mwy o bleser yn ei waith na dim a fedd y ddaear faith. Cael bod yn fore dan yr iau sydd ganmil gwell na phleser gau, mae ffyrdd doethineb oll i gyd yn gysur ac yn hedd o hyd. O boed im dreullo […]


Daeth ffrydiau melys iawn

Daeth ffrydiau melys iawn yn llawn fel lli o ffrwyth yr arfaeth fawr yn awr i ni; hen iachawdwriaeth glir aeth dros y crindir cras; bendithion amod hedd: O ryfedd ras! Cymerodd Iesu pur ein natur ni, enillodd ef i’w saint bob braint a bri; fe ddaeth o’r nef o’i fodd, cymerodd agwedd was; ffrwyth […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015

Dywedwyd ganwaith na chawn fyw

Dywedwyd ganwaith na chawn fyw gan anghrediniaeth hy, ond ymddiriedaf yn fy Nuw: mae’r afael sicraf fry. Cyfamod Duw a’i arfaeth gref yn gadarn sydd o’m tu anghyfnewidiol ydyw ef: mae’r afael sicraf fry. Er beiau mawrion rif y dail a grym euogrwydd du Iawn ac eiriolaeth Crist yw’r sail: mae’r afael sicraf fry. Rhagluniaeth […]


Hyfryd lais Efengyl hedd

Hyfryd lais Efengyl hedd sydd yn galw pawb i’r wledd; mae gwahoddiad llawn at Grist, oes, i’r tlawd newynog, trist; pob cyflawnder ynddo cewch; dewch â chroeso, dlodion, dewch. Cyfod, Haul Cyfiawnder llon, cyfod dros y ddaear hon; aed dy lewyrch i bob gwlad, yn dy esgyll dwg iachâd; dos ar gynnydd, nefol ddydd, doed […]


Mae’r iachawdwriaeth rad

Mae’r iachawdwriaeth rad Yn ddigon i bob rhai; Agorwyd ffynnon er glanhad Pob pechod cas a bai. Daw tyrfa rif y gwlith Yn iach trwy rin y gwaed: Pwy ŵyr na byddaf yn eu plith, Yn lân o’m pen i’m traed? Er lleted yw fy mhla, Er dyfned yw fy mriw, Y balm o Gilead […]

  • Gwenda Jenkins,
  • June 22, 2015

Un a gefais imi’n gyfaill

Un a gefais imi’n gyfaill, pwy fel efe! Hwn a gâr yn fwy nag eraill, pwy fel efe! Cyfnewidiol ydyw dynion a siomedig yw cyfeillion; hwn a bery byth yn ffyddlon, pwy fel efe! F’enaid, glŷn wrth Grist mewn cyni, pwy fel efe! Ffyddlon yw ymhob caledi, pwy fel efe! Os yw pechod yn dy […]