Wel, f’enaid dos ymlaen,
Heb ofni dŵr na thân,
Mae gennyt Dduw:
‘D yw’r gelyn mwya’i rym
I’w nerth anfeidrol ddim;
Fe goncra ‘mhechod llym-
Ei elyn yw.
Mae gwaed ei groes yn fwy
Na’u natur danbaid hwy,
Na’u nifer maith;
Fe faddau fawr a mân,
Fe’m gylch yn hyfryd lân,
Fe’m dwg i yn y blaen,
I ben fy nhaith.
O! Brynwr mawr y byd,
Tyrd bellach, mae’n iawn bryd,
Mae yn brynhawn;
Gad imi weld dy ras
Ar frys yn torri i maes
Dros wyneb daear las,
Yn genllif llawn.
William Williams, Pantycelyn
(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 223)
PowerPoint