“Wele fi yn dyfod,”
llefai’r Meichiau gwiw;
atsain creigiau Salem,
“Dyfod y mae Duw.”
Gedy anfeidrol fawredd
nef y nef yn awr;
ar awelon cariad
brysia i barthau’r llawr.
Pa ryw fwyn beroriaeth
draidd yn awr drwy’r nen?
Pa ryw waredigaeth
heddiw ddaeth i ben?
Miloedd o angylion
yno’n seinio sydd,
“Ganwyd y Meseia,
heddiw daeth y dydd.”
Dyma’r Hollalluog
heddiw inni’n Frawd;
dyma holl drysorau
Duwdod yn y cnawd.
Moroedd rhad drugaredd
lanwodd dros y llawr,
perlau gwlad gogoniant
heddiw ddaeth i lawr.
IEUAN GWYLLT, 1822-77
(Caneuon Ffydd 454)
PowerPoint