Wele’r dydd yn gwawrio draw,
amser hyfryd sydd gerllaw;
daw’r cenhedloedd yn gytûn
i ddyrchafu Mab y Dyn.
Gwelir teyrnas Iesu mawr
yn ben moliant ar y llawr;
gwelir tŷ ein Harglwydd cu
goruwch y mynyddoedd fry.
Gwelir pobloedd lawer iawn
yn dylifo ato’n llawn;
cyfraith Iesu gadwant hwy
ac ni ddysgant ryfel mwy.
Yna clywir yn y nef
fawl i’r Oen ag uchel lef:
“Aeth teyrnasoedd byd a’u bri
oll yn eiddo’n Harglwydd ni!”
JOHN THOMAS, 1730-1804?
(Caneuon Ffydd 251)
PowerPoint