Am fod fy Iesu’n fyw, byw hefyd fydd ei saint; er gorfod dioddef poen a briw, mawr yw eu braint: bydd melus glanio draw ‘n ôl bod o don i don, ac mi rof ffarwel maes o law i’r ddaear hon. Ac yna gwyn fy myd tu draw i’r byd a’r bedd: caf yno fyw […]
Dyro inni weld o’r newydd mai ti, Arglwydd, yw ein rhan; aed dy bresenoldeb hyfryd gyda’th weision i bob man: tyrd i lawr, Arglwydd mawr, rho dy fendith yma nawr. Ymddisgleiria yn y canol, gwêl dy bobol yma ‘nghyd yn hiraethu, addfwyn Iesu, am gael gweld dy ŵyneb-pryd; golau cry’ oddi fry chwalo bob rhyw […]
‘N ôl marw Brenin hedd, a’i ffrindiau i gyd yn brudd, a’i roi mewn newydd fedd, cyfodai’r trydydd dydd; boed hyn mewn cof gan Israel Duw, mae’r Oen a laddwyd eto’n fyw. Galarwyr Seion, sydd â’ch taith drwy ddŵr a thân, paham y byddwch brudd? eich galar, troer yn gân: O cenwch, etholedig ryw: mae’r […]
O Arglwydd Dduw, y Brenin mawr, dy fendith dyro inni nawr: rho inni’r fraint ar hyn o bryd yn d’Ysbryd i’th addoli ‘nghyd. Yn ôl d’addewid, Iesu cu, i fod lle byddo dau neu dri, bydd yn ein mysg ar hyn o bryd, tra bo dy bobol yma ‘nghyd. ‘Rwyt ti, O Dduw, ymhob rhyw […]
Pwy welaf fel f’Anwylyd, yn hyfryd ac yn hardd, fel ffrwythlon bren afalau’n rhagori ar brennau’r ardd? Ces eistedd dan ei gysgod ar lawer cawod flin; a’i ffrwyth oedd fil o weithiau i’m genau’n well na gwin. JOHN THOMAS, 1742-1818 (Caneuon Ffydd 334)
Wel dyma’r Ceidwad mawr a ddaeth i lawr o’r nef i achub gwaelaidd lwch y llawr – gogoniant iddo ef! Bu farw yn ein lle ni, bechaduriaid gwael; mae pob cyflawnder ynddo fe sydd arnom eisiau’i gael. Ei ‘nabod ef yn iawn yw’r bywyd llawn o hedd, a gweld ei iachawdwriaeth lawn sydd yn dragwyddol […]
Wele’r dydd yn gwawrio draw, amser hyfryd sydd gerllaw; daw’r cenhedloedd yn gytûn i ddyrchafu Mab y Dyn. Gwelir teyrnas Iesu mawr yn ben moliant ar y llawr; gwelir tŷ ein Harglwydd cu goruwch y mynyddoedd fry. Gwelir pobloedd lawer iawn yn dylifo ato’n llawn; cyfraith Iesu gadwant hwy ac ni ddysgant ryfel mwy. Yna […]
Y bore hwn, drwy buraf hedd, gwir sain gorfoledd sydd ymhlith bugeiliaid isel-fri, cyn torri gwawr y dydd. Gwrandawed pob pechadur gwan sy’n plygu dan ei bla, angylion nef, â’u llef yn llon yn dwyn newyddion da. I Fethlem Jwda, dyma’r dydd, daeth newydd da o’r nef, Duw ymddangosodd yn y cnawd, ein Brawd yn […]