Wrth droi fy ngolwg yma i lawr
i gyrrau’r holl greadigaeth fawr,
gwrthrych ni wêl fy enaid gwan
ond Iesu i bwyso arno’n rhan.
Dewisais ef, ac ef o hyd
ddewisaf mwy tra bwy’n y byd;
can gwynfyd ddaeth i’m henaid tlawd –
cael Brenin nefoedd imi’n Frawd.
Fy nghysur oll oddi wrtho dardd;
mae’n Dad, mae’n Frawd, mae’n Briod hardd;
f’Arweinydd llariaidd tua thref,
f’Eiriolwr cyfiawn yn y nef.
Ef garaf bellach tra bwyf byw,
uwch creaduriaid o bob rhyw;
er gwaethaf daer ac uffern drist,
f’Anwylyd i fydd Iesu Grist.
WILLIAM WILLLAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 303)
PowerPoint