Wrth weld lluniau’r plant yn dioddef
diffodd wnawn a throi ein cefn,
‘Mond gobeithio a gweddïo
y daw popeth nôl i drefn’.
Dysg in herio’r anghyfiawnder,
gwna ni’n ddewrach dros y gwir,
drwy’n geiriau bydded i’r byd gael clywed
dy lais yn glir.
Am rhy hir y buom dawel
er pob gweithred erchyll wnaed,
bu ein taw yn arf i’w rhyfel,
ar ein dwylo ni mae gwaed.
Maddau inni guddio’th Deyrnas
gwna ni’n ddewrach dros y gwir,
drwy’n geiriau bydded i’r byd gael clywed
dy lais yn glir.
Gad i’th Eglwys di drwy’r gwledydd
godi’r her heb oedi dim
a gwireddu’i galwad oesol –
dweud y gwir i’r rhai mewn grym.
Boed i’th Deyrnas ddod, o Iesu,
gwna ni’n gryf i ddal ein tir,
drwy’n geiriau bydded i’r byd gael clywed
dy lais yn glir.
As we watch the children suffer
we switch off and turn away,
overwhelmed, we tell each other
‘We can only hope and pray’.
Help us challenge all injustice,
help us make a braver choice,
This day, Lord Jesus, speak to them through us
with your clear voice.
We’ve met suffering with silence,
death tolls rise in ‘distant’ lands,
fuelled their wars with our compliance,
precious blood is on our hands.
Lord, we’ve kept your Kingdom hidden,
help us make a braver choice,
this day, Lord Jesus, speak to them through us
with your clear voice.
Raise your Church in every nation,
give her strength to meet this hour
and embrace her true vocation
to speak truth to those in power.
May your kingdom come, Lord Jesus
as we make a braver choice,
this day, Lord Jesus, speak to them through us
with your clear voice.
Casi M. Jones
I’w chanu ar dôn rhif 695 yn Caneuon Ffydd
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint Cymraeg PowerPoint Saesneg