Ŵyneb siriol fy Anwylyd
yw fy mywyd yn y byd;
ffárwel bellach bob eilunod,
Iesu ‘Mhriod aeth â’m bryd,
Brawd mewn myrdd o gyfyngderau,
Ffrind mewn môr o ofid yw;
ni chais f’enaid archolledig
neb yn Feddyg ond fy Nuw.
Yn yr Arglwydd ‘rwy’n ymddiried,
pwy all wneuthur niwed im?
Dan ei adain mi gysgodaf
yn yr aflwydd mwya’i rym;
f’enaid ddaeth i’r ddinas noddfa,
yno bellach byddaf fyw;
ni chais f’enaid archolledig
neb yn Feddyg ond fy Nuw.
MORGAN RHYS, 1716-79
(Caneuon Ffydd 339)
PowerPoint