Y Gŵr fu ar Galfaria
a welir ddydd a ddaw
yn eistedd ar ei orsedd
a’r glorian yn ei law,
a phawb a gesglir ato
i’w pwyso ger ei fron:
O f’enaid cais dduwioldeb
a dro y glorian hon.
Mae cofio dydd y cyfrif
yr hwn a ddaw cyn hir,
yn uchel alw arnaf
i lefain am y gwir
‘rwy’n ofni ‘nhwyllo f’hunan
O Dduw, didwylla fi:
nid oes a ddeil ei bwyso
ond gwaith dy Ysbryd di.
1 THOMAS PHILLIPS, 1772-1842, 2 ANAD.
(Caneuon Ffydd 716)
PowerPoint