Y mae in Waredwr,
Iesu Grist Fab Duw,
werthfawr Oen ei Dad,
Meseia, sanctaidd, sanctaidd yw.
Diolch, O Dad nefol,
am ddanfon Crist i’n byd,
a gadael dy Ysbryd Glân
i’n harwain ni o hyd.
Iesu fy Ngwaredwr,
enw ucha’r nef,
annwyl Fab ein Duw, Meseia
‘n aberth yn ein lle.
Yna caf ei weled
ryw ddydd yn y ne’
a’i addoli ef yn Frenin
yn y sanctaidd le.
MELODY GREEN (There is a Redeemer) cyf. MIRIAM DAVIES
Hawlfraint © 1982 Birdwing Music / BMG Songs Inc. / Ears to Hear Music / EMI Christian Music Publishing.
Gweinyddir gan CopyCare, PO. Box 77, Hailsham BN27 3EF music@copyme.com Defnyddir trwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd 416, Grym Mawl 1: 155)
PowerPoint