Y mae nerth yn enw Iesu –
Credu wnawn ynddo Ef.
Ac fe alwn ar enw Iesu:
‘Clyw ein llef Frenin nef!
Ti yw’r un wna i’r diafol ffoi,
Ti yw’r un sy’n ein rhyddhau.’
Does un enw arall sydd i’w gymharu
 Iesu.
Y mae nerth yn enw Iesu –
Cleddyf yw yn fy llaw.
A chyhoeddwn yn enw Iesu:
‘Sefyll wnawn yn ddi-fraw!
Ti yw’r un wna i satan syrthio,
Sethrir ef o dan ein traed.’
Does dim enw arall sydd i’w gymharu
 Iesu.
Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, There is power in the name of Jesus: Noel Richards
Hawlfraint © 1989 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/
Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music
tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd
(Grym Mawl 2: 129)
PowerPoint