Yn dy law y mae f’amserau,
ti sy’n trefnu ‘nyddiau i gyd,
ti yw lluniwr y cyfnodau,
oesoedd a blynyddoedd byd;
rho dy fendith
ar y flwyddyn newydd hon.
Yn dy law y mae f’amserau,
oriau’r bore a’r prynhawn,
ti sy’n rhoddi y tymhorau,
amser hau a chasglu’r grawn;
gad im dreulio
oriau’r flwyddyn yn dy waith.
Yn dy law y mae f’amserau,
amser gwynfyd, amser croes,
amser iechyd digymylau
a chysgodion diwedd oes;
gad im mwyach
dreulio ‘nyddiau yn dy law.
NANTLAIS, 1874-1959 (© Yr Athro S. Nantlais Williams. Defnyddir drwy ganiatâd.)
(Caneuon Ffydd 71)