Pennill 1
Yn unig mewn tristwch, a’n farw’n fy mai
Ar goll mewn anobaith, dim cychwyn o’m mlaen
Dy gariad Di ddaeth â thrugaredd i mi
Pan drechwyd marwolaeth, daeth bywyd i mi
Pennill 2
Gwaredwyd y lludw, roedd harddwch ar ôl
Fy nghalon amddifad ga’dd le yn ei gôl
Trodd galar yn ddawnsio, fy nhraed ddaeth yn rhydd
Pan drechwyd marwolaeth, daeth bywyd i mi
Corws
O dy ras mor hael olcha drosof fi
Adnewyddaist fi, daeth bywyd gyda Thi
Mae Dy gariad Di’n llifo drosom ni
Adnewyddaist ni, daeth bywyd gyda Thi
Pennill 3
Fe chwalwyd fy maglau, rwy’n rhydd Ynddo Ef
Fe gariodd fy ngh’wilydd yn ffyddlon i’r bedd
Fe gliriwyd fy nyled a’m cyfarch fel ffrind
Pan drechwyd marwolaeth, daeth bywyd i mi
Corws
Pennill 4
Ar groes y troseddwr, ‘Ngwaredwr a aeth
A dathlodd y t’wyllwch wrth weld Iesu’n gaeth
Ond codi wnaeth Iesu i’n prynu yn rhydd
Pan drechwyd marwolaeth, daeth bywyd i mi
Corws
Pont (X2)
Ry’n ni’n rhydd, rhydd, am byth da ni’n rhydd
Cydganwn gân y cadwedig i Ti
Ie’n rhydd, rhydd, am byth nawr amen
Pan drechwyd marwolaeth, daeth bywyd i mi
Pan Drechwyd Marwolaeth
Death Was Arrested (Adam Kersh, Brandon Coker, Heath Balltzglier, Paul Taylor Smith)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E Jones ac Emyr Wynne Jones
Hawlfraint © 2015 Seems Like Music (Gwein. BMG Rights Management [d/o Music Services, Inc.])
Adam Kersh Music (Gwein. Capitol CMG Publishing)
Bcoker Music (Gwein. Capitol CMG Publishing)
Centricity Songs (Gwein. Capitol CMG Publishing)
Paul Taylor Smith Publishing (Gwein. Capitol CMG Publishing)
Music At North Point (Gwein. Music Services, Inc.)
CCLI 7231150
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint