Yn y dyfroedd mawr a’r tonnau,
nid oes neb a ddeil fy mhen
ond fy annwyl Briod Iesu
a fu farw ar y pren:
cyfaill yw yn afon angau,
ddeil fy mhen i uwch y don;
golwg arno wna im ganu
yn yr afon ddofon hon.
O anfeidrol rym y cariad,
anorchfygol ydyw’r gras,
digyfnewid yw’r addewid
bery byth o hyn i maes;
hon yw f’angor ar y cefnfor,
na chyfnewid meddwl Duw;
fe addawodd na chawn farw,
yng nghlwyfau’r Oen y cawn i fyw.
DAFYDD WILLIAM 1721?-94
(Caneuon Ffydd 736)
PowerPoint