Ynot, Arglwydd, gorfoleddwn,
yn dy gariad llawenhawn,
cariad erys fyth heb ballu
a’i ffynhonnau fyth yn llawn:
Frenin nef a daear lawr,
molwn byth dy enw mawr.
Er i ti reoli bydoedd,
ymhob storom lem a ddaw
cedwi’r weddw dan dy gysgod
a’r amddifad yn dy law:
Frenin nef a daear lawr,
molwn byth dy enw mawr.
Os yw’r bryniau yn dy glorian,
os dy ddeddf sydd ar y môr,
ti wrandewi’n nydd y daran
lef pechadur wrth dy ddôr:
Frenin nef a daear lawr,
molwn byth dy enw mawr.
J. J. WILLIAMS, 1869-1954
(Caneuon Ffydd 217)
PowerPoint