Pennill 1
Er holl ymchwydd dyn
A’i deyrnasoedd oll
‘Mond un Brenin sydd
Ar yr orsedd fry
Nid wy’n ofni nawr
Y gwirionedd yw
R’Hen Ddihenydd yn wir yw fy Nuw
Corws
Neb yn uwch na neb o’i flaen Ef
Mae pob awr yn Ei law
Mae ei orsedd Ef yn sefyll nawr am byth
Mae pob grym a phob gogoniant
I’w ymddiried i Hwn
R’Hen Ddihenydd yn wir yw fy Nuw
Pennill 2
Er bod ofnau’r nos
Yn fy llethu i
Mae Ef gyda mi
(Nid) wyf yn unig nawr
Yn ei gariad mawr
Mae’n fy ‘nabod i
R’Hen Ddihenydd yn wir yw fy Nuw
Corws
Neb yn uwch na neb o’i flaen Ef
Mae pob awr yn Ei law
Mae ei orsedd Ef yn sefyll nawr am byth
Mae pob grym a phob gogoniant
I’w ymddiried i Hwn
R’Hen Ddihenydd yn wir yw fy Nuw
Pennill 3
Er na welaf i
Beth sydd o fy ‘mlaen
Fe ddisgwyliaf am
Fy Ngwaredwr i
Bydd gorfoledd mawr
Yn dy wyddfod Di
R’Hen Ddihenydd fydd yn gwmni i mi
Corws
Neb yn uwch na neb o’i flaen Ef
Mae pob awr yn Ei law
Mae ei orsedd Ef yn sefyll nawr am byth
Mae pob grym a phob gogoniant
I’w ymddiried i Hwn
R’Hen Ddihenydd yn wir yw fy Nuw
Tag
R’Hen Ddihenydd yn wir yw fy Nuw
Yr Hen Ddihenydd
Ancient of Days (Jesse Reeves, Jonny Robinson, Michael Farren a Rich Thompson)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E Jones
© 2018 BEC Worship; WriterWrong Music; CityAlight Music; Farren Love And War Publishing; Integrity’s Alleluia! Music
(Gwein. Essential Music Publishing LLC, Integrity Music Ltd)
CCLI 7254462
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint