Cytgan:
Ysbryd Glân Duw, cudd wyt fel y gwynt,
Addfwyn fel c’lomen gu;
Dysg in y gwir a dyfnha ein ffydd,
Dangos serch Crist i ni.
Pennill 1
Llefaru wnest oes oesoedd yn ôl,
Rhoist in dy bur Air byw;
Ei ddarllen wnawn, gwir yw i’n dydd,
Trwyddo clywn lais ein Duw.
Cytgan:
Ysbryd Glân Duw, cudd wyt fel y gwynt,
Addfwyn fel c’lomen gu;
Dysg in y gwir a dyfnha ein ffydd,
Dangos serch Crist i ni.
Pennill 2
Heb dy help di, ei siomi a wnawn,
Collwn ei Ffordd a’n ffydd;
Dy rym, dy nerth a’th ras fynnwn ni
I ddilyn Crist bob dydd.
Cytgan:
Ysbryd Glân Duw, cudd wyt fel y gwynt,
Addfwyn fel c’lomen gu;
Dysg in y gwir a dyfnha ein ffydd,
Dangos serch Crist i ni.
Ysbryd Glân Duw, cudd wyt fel y gwynt
Spirit of God, unseen as the wind, Margaret V. Old,
Cyfieithiad awdurdodedig: Linda Lockley
© Scripture Union
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint