Ysbryd Sanctaidd, dyro’r golau
ar dy eiriau di dy hun;
agor inni’r Ysgrythurau,
dangos inni Geidwad dyn.
O sancteiddia’n myfyrdodau
yn dy wirioneddau byw;
crea ynom ddymuniadau
am drysorau meddwl Duw.
Gweld yr Iesu, dyna ddigon
ar y ffordd i enaid tlawd;
dyma gyfaill bery’n ffyddlon,
ac a lŷn yn well na brawd
DYFED, 1850-1923
PowerPoint