Pennill 1
Am adegau pan ddefnyddiais i
dy enw i ‘nibenion i
Am yr holl deyrnasoedd bychan godais i
Am adegau gwnes i chwarae’n saff
pan roeddet Ti yn ceisio mwy
a’r eilunod wnaeth eu cartref ynof fi
Corws 1
O Crea galon lân fy Nuw
A rho im ysbryd cadarn
A rho im ysbryd cadarn yn fy mron
O Crea galon lân fy Nuw
A rho im ysbryd cadarn
A rho im ysbryd cadarn yn fy mron
Pennill 2
Am adegau pan es i ar chwâl
Fel Jona’n dianc rhag Dy lais
Pan ddilynais lwybr ofn nid llwybr ffydd
Am y llwybr cul wnes i osgoi
Pan lithrais yn fy nerth fy hun
 ti’n fy ngwahodd, crwydro a wnes i
Ond rwy’n dod yn awr
Corws 1
Tag
O rho im ysbryd cadarn
Ysbryd cadarn yn fy mron
Pont (X2)
(Mae) haelioni fy Nuw
Yn dwyn edifeirwch
Mae breichiau y Tad
Yn llawn o faddeuant
Fe roddaist im galon
Sy’n lân er d’ogoniant
A ‘ngwneud i yn deml
Yn lle y cei Di ddod i fyw
Pont (X2)
Fe roddaist im galon
Sy’n lân er d’ogoniant
A ‘ngwneud i yn deml
Yn lle y cei Di ddod i fyw
Corws 2
O Crea galon lân fy Nuw
A rho im ysbryd cadarn
A rho im ysbryd cadarn yn fy mron
O Crea galon lân fy Nuw
A rho im ysbryd cadarn
Ysbryd cadarn
Diweddglo
Ysbryd cadarn
Crea Galon Lân
Clean Heart (Austin Johnson, Bryan Torwalt, Hank Bentley a Katie Torwalt)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© Capitol CMG Genesis; Capitol CMG Paragon; Jesus Culture Music; Jesus Culture Music Group; Songs By That Dog Will Hunt; Torwalt Music; Torwalt Music Publishing Global; Heritage Worship Publishing (Gwein. Capitol CMG Publishing, Song Solutions)
CCLI ID# 7254494
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint