‘Does arnaf eisiau yn y byd Ond golwg ar dy haeddiant drud, A chael rhyw braw o’i nefol rin, I ‘mado’n lân â mi fy hun. Er bod dy haeddiant gwerthfawr drud Yn fwy na’r nef, yn fwy na’r byd, Yn rhyw anfeidrol berffaith Iawn, ‘Rwy’n methu gorffwys arno’n llawn. O flaen y drugareddfa fawr […]
A wyt ti’n un i fentro y cyfan oll i gyd? A fentret ti dy enaid i rywun yn y byd? Fe fentrais i fy enaid i Dduw y byd a’r nef, a mentrais dragwyddoldeb ar ei addewid ef. A fentri di y cyfan oll ar gariad Duw a’i air di-goll? A wyt ti’n un […]
Agorwch byrth, s’dim rhwystr yn bod Mae Arglwydd y Gogoniant yn dod, Daw Brenin y brenhinoedd mawr Yn geidwad i deyrnasoedd y llawr Fe ddaw â iachawdwriaeth lawn; Am hynny dathlwn, canwn fawl: I Ti, fy Nuw, boed clod Fy Nghrëwr doeth a mawr! Mor deilwng yw ein Harglwydd cu Mor addfwyn ydyw gyda ni […]
Rhoes Duw Ei Fab – Iesu oedd Hwnnw, I’m caru ddaeth A maddau ’mai. Bu farw’r Oen I brynu ’mhardwn; Bedd cwbl wag Sy’n berffaith dyst I’m Prynwr byw. Am mai byw yw Ef Af ymlaen yfory, Am mai byw yw Ef Ffoi wnaiff pob braw, Am y gwn mai Ef Sy’n dal y dyfodol, […]
Pennill 1 Bûm ar goll, (rwy’n) saff yn awr, Ei lais oedd yn ’ngalw nôl Bywyd fu ar chwâl, boddi yn y storm Rhedais oddi wrthyt ti Pennill 2 Yna clywais di’n galw arna i, “Tyrd yn ôl” Rhof fy nyled lawr, cael coron hardd Clywais d’alwad di Pont Yn dy freichiau di Syllaf i’th […]
Ar hanner nos yn glir y daeth Y gân nefolaidd gynt; I daro’u tannau plygu wnaeth Angylion ar eu hynt: “Hedd trwy y byd, ewyllys da Tirionaf Frenin nef” – Y ddaear mewn distawrwydd dwys Wrandawai’r hyfryd lef. Trwy byrth y nef daw’r rhain o hyd Ar adain hedd i lawr, A nofia’u mawl o’r […]
Pennill 1 Ar y groes, ar y groes, lle bu farw gwir Fab Duw, Dyma ras, cariad pur lifa’n rhad o’i ystlys friw. Dirgelwch rhyfedd yw – Bu farw i mi gael byw, aberth perffaith Brenin Nef. Ar y groes, ar y groes, cariad perffaith ar y groes. Pennill 2 Wrth y groes, wrth y […]
Arglwydd, maddau in mor dlodaidd fu ein diolch am bob rhodd ddaeth o’th ddwylo hael i’n cynnal fel dy bobol wrth dy fodd: yn dy fyd rhown ynghyd ddiolch drwy ein gwaith i gyd. Arglwydd, maddau’n difaterwch at ddiodde’r gwledydd draw lle mae’r wybren glir yn felltith a’r dyheu am fendith glaw: lle bo loes […]
Emyn y Grawys Arwain wnaethost, Dduw, trwy’r Ysbryd D’unig Fab i’r anial maith; yno dysgodd i ymddiried yn Dy ras cyn dechrau’i waith. Gras Dy eiriau drechodd demtasiynau’r sarff. Deugain niwrnod o ymprydio, deugain nos mewn gwewyr llym, i weddnewid trwy dreialon wendid dyn yn ddwyfol rym. Grym Dy eiriau drechodd demtasiynau’r sarff. Arwain ninnau […]
Y cread ŵyr y llais a ddaeth i’r gwagle mawr Y gwynt a ddaeth â’r llwch yn fyw a ffurfiodd sêr y nen Mae’r gwyll yn ofni’th lais A’i gyrrodd ef i ffwrdd ac er mai hir yw’r nos, Mi wn yn iawn y gwnei hyn eto nawr Un gair gen Ti Daw newid ar […]