Pennill 1
Dad, gad i mi weini fel Iesu
Gad im weld yr hyn weli Di
Dysga ‘nghalon gwael fod yn isel
Bod yn draed a’th dwylo Di
Pennill 2
Dad gad i mi garu fel Iesu
Fel y bu’n dosturiol i mi
Gad im geisio dod â chyfiawnder
At y rhai mewn angen blîn
Corws
Arwain fi, Arglwydd cariad
Cymer fi i’m sancteiddio
Rho dy nerth i mi wneud Dy waith
Anrhydeddu Iesu yn fy myw
Anrhydeddu Iesu yn fy myw
Pennill 3
Dad, gad i mi ddweud am fy Ngheidwad
Sut mae’n cynnig gobaith i’r coll
Gad i’m rannu’r gras a’r maddeuant
Welais innau wrth y groes
Corws
Pont (X2)
Clod i Ngheidwad a’i drugaredd
Clod i’r Brenin Tlawd
Nawr i Iesu bo’r Gogoniant
Anrhydeddwn Ef
Corws
Anrhydeddu Iesu
All to Honour Jesus (Susan Lack, Scott Lavender)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© CityAlight Music (APRA) (Gwein. IntegratedRights.com)
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint