Pennill 1
Pryd wnes i ddechrau anghofio
Bopeth a wnest drosof fi
Pryd wnes i hepgor fy ffydd yn yr amhosibl
Sut wnes i wir ddechrau credu
Nad oeddet yn ddigon i mi
Pam dwi’n perswadio fy hun rhag gweld dy wyrthiau Di
Corws 1
Rwyt yn fwy nag abl
Rwyt yn fwy nag abl
Rwyt yn fwy nag abl
Rwyt yn fwy nag abl
Sut wna i wadu beth all yr Arglwydd ei wneud?
Pennill 2
Nawr rwy’n gweld popeth s’gen i
A daeth fy hyder yn ôl
Rwy’n rhoi fy ffydd yn yr Un sy’n medru gwyrthiau
Ti’n gwneud gwyrthiau
Corws 1
Pont
Fedri di ddirnad
Gyda’r holl ffydd yn ein plith
Beth mae’r Iôr yn gwneud
Beth mae’r Iôr yn gwneud
Mae’n mynd i wneud
Yn creu ei lwybrau fan hyn
Mae’n mynd i wneud, yn mynd i wneud
Mae pob dim yn bosibl
Mae pob dim yn bosibl
Mae pob dim yn bosibl
Sut wna i wadu beth all yr Arglwydd ei wneud?
Tag
Sut wna i wadu beth all yr Arglwydd ei wneud?
Sut wna i wadu beth all yr Arglwydd ei wneud?
Corws 1
Pennill 3
Fe deithiais ymhell
A’th weld Di ar waith
O’r fath ddaioni a gras
Mwy na fy haeddiant i
Pennill 4
Rwyf yn gwybod pwy wyf
Fedra i’m aros fan hyn
Trwy ffydd yn cyrraedd hyn
Fedra’i ddim troi yn ôl
Corws 2
Mae heb orffen ei waith
Mae heb orffen ei waith
Mae cymaint eto i’w weld
Ti heb orffen dy waith
Corws 3
Ti heb orffen dy waith
Ti heb orffen dy waith
Mae cymaint eto i’w weld
Ti heb orffen dy waith
Tag
Sut wna i wadu beth all yr Arglwydd ei wneud?
Sut wna i wadu beth all yr Arglwydd ei wneud?
Corws 4
Duw sy’n fwy nag abl
Duw sy’n fwy nag abl
Duw sy’n fwy nag abl
Duw sy’n fwy nag abl
Sut wna i wadu beth all yr Arglwydd ei wneud?
Coda
Sut wna i wadu beth all yr Arglwydd ei wneud?
Sut wna i wadu beth all yr Arglwydd ei wneud?
Sut wna i wadu beth all yr Arglwydd ei wneud?
Sut wna i wadu beth all yr Arglwydd ei wneud?
Mwy nag Abl
More than Able (Ben Fielding, Chandler Moore, Naomi Raine a Steven Furtick)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© For Humans Publishing; Maverick City Publishing; Naomi Raine Music; Ben Fielding Publishing; Music by Elevation Worship Publishing (Gwein. Essential Music Publishing LLC)
CCLI #: 7265054
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint