logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O Dduw

Pennill 1
Er weithiau ‘mod i’n teimlo ar chwâl
A’r daith yn aml yn unig
Beth bynnag ddaw hyd at ddiwedd y ras

Rhag-gorws
O fe safaf i
Lle mae d’obaith di
O fe safaf i
Lle mae d’obaith di

Corws
O Dduw, O Dduw mi wn ti’n clywed fy nghri
Uwch yr holl g’lwyddau, ti’n fy nghodi i
Dim ots be’ sydd mi wn y daw y dydd
Pan wnei di’n iawn am bopeth sydd o’i le
Fe wnei di’n iawn am bopeth sydd o’i le

Pennill 2
Mae’th nerth ar gael pan dwi’n cyrraedd y pen
A’th ras yn cyrraedd y drylliedig
Eto trwy’r dagrau a thrwy’r holi pam

Rhag-gorws

Corws

Pont
O fe safaf i
O fe safaf i
O fe safaf i
Lle mae d’obaith di
O fe safaf i
Lle mae d’obaith di

Corws

O Dduw
O Lord (Joe Williams & Paul Mabury)
Cyfieithiad awdurdodedig Ceinwen Jones
© 2014 Oceans Away Music; So Essential Tunes; Sound District (Gwein. Essential Music Publishing LLC)
CCLI #: 7272364

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Aled Davies,
  • November 26, 2025