Pennill 1
Am fy einioes i
Am gael bara’r dydd
Pwysaf arnat Ti
Pwysaf arnat Ti
Am gael gweld y wawr
Am fy nghwsg liw nos
Pwysaf arnat Ti
Pwysaf arnat Ti
Corws 1
Ti’r gwirionedd, y bywyd a’r ffordd
Ti, y ffynnon na aiff byth yn wag
Ti’r winwydden, mi ynot Ti
Tynn fi’n nes i aros ynot Ti
Pennill 2
Lle mae d’Ysbryd Di
Yn fy arwain i
Pwysaf arnat Ti
Pwysaf arnat Ti
Am y brwydrau ddaw
(A) oresgynnaf i
Pwysaf arnat Ti
Pwysaf arnat Ti
Corws 2
Ti’r gwirionedd, y bywyd a’r ffordd
Ti, y ffynnon na aiff byth yn wag
Ti’r winwydden, mi ynot Ti
Tynn fi’n nes i aros ynot Ti
Bydd fy nerth, fy nghân yn y nos
Bydd fy nhrysor, fy ngwobr i
Nawr am byth, rwy’n perthyn i Ti
Tynn fi’n nes i aros ynot Ti
Pennill 3
Pan fydd angau’n dod
I’m gorffwystra i
Pwysaf arnat Ti
Pwysaf arnat Ti
Am gael byw am byth
Esgyn fry yng Nghrist
Pwysaf arnat Ti
Pwysaf arnat Ti
Corws 2
Tag 1
O wnei Di ‘nysgu
Nawr i aros ynot Ti
Tag 2
Pwysaf arnat Ti
Pwysaf arnat Ti
Aros
Abide (Aaron Williams, Aaron Keyes, Jake Fauber)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© 2021 Integrity Worship Music (ASCAP), Aaronwilliamsmusic (ASCAP), WellWithYouMusic (ASCAP) (gweinyddir y cyfan gan IntegratedRights.com)
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint