logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Hwn yw y dydd

Pennill 1
Duw’r dechreuadau a diwedd pob dim
Agor fy llygaid i ddirnad dy waith
Mae ym mhob un dim
Mae ym mhob un dim

Pennill 2
Duw yn y rhuthro a Duw yn yr hoe
Rwyf am dy ddilyn lle byddi yn dweud
Rwyt Ti ym mhob dim
Rwyt Ti ym mhob dim

Corws
Hwn yw y dydd a wnest Ti
Fe fentraf yn awr yn dy ras
Hwn yw y bywyd a roddaist Ti
O rwyf am ddal gafael, O rwyf am ddal gafael
Hwn yw y dydd a wnest Ti
Boed i holl waith fy nwylo rhoi clod
Hwn yw y bywyd a roddaist Ti
Ac rwyf i am redeg, O rwyf i am redeg y ras

Pennill 3
Rho i mi ddewrder i gerdded dy ffyrdd
Gobaith yfory a bara i’r dydd
Gwnaer d’ewyllys Di
Doed dy deyrnas Di

Corws

Pont
Duw yn fy ysgol
Duw yn fy ngwaith
Duw yn fy nghartref a phan rwyf ar daith
Duw wrth gymudo
Duw ar y trên
Ynot yr ydym yn byw ac yn bod
Duw yn yr heddwch
Duw yn y gad
Duw yn y bore a drwodd i’r nos
Duw yn ein haros
Duw pan ar frys
Pob peth ym mhob man fydd nawr er dy fwyn

Corws

Tag (X4)
(Fe ei di o ‘mlaen) fe ei di o ‘mlaen i a tu ôl fi
(Ble bynnag yr af) Fe fyddi Di yno yn dy gariad

Hwn yw y dydd
This is the day (Joel Payne, Laura Farrar a Phillipa Hanna)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E Jones a Thora Tenbrink
© 2025 Integrity Music; ChurchSongs.co.uk (Gwein. Integrity Music Ltd, Jubilate Hymns Ltd)

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Aled Davies,
  • June 10, 2026