Pennill
Hyfrydwch y dechreuad
A’r sbarc o feddwl nef
Y llais a drefnodd lloer a’r môr
A’u gosod yn eu lle
Pob planed yn rhyfeddod
Pob gronyn ddaeth o’i law
Bydysawd oll a grëwyd
Gan ein Duw â’i einioes Ef
Pennill 2
Ond Eden aeth yn lludw
Perffeithrwydd gafodd staen
A cychwyn ffres o’r newydd
Oedd angen mawr dy blant
Fe wyddost yn dy gariad
Mai dechrau byw oedd bedd
Bendithiaist Ti y byd â’th ras
Trwy ddod â d’einioes Di
Pont 1
Fe gerddaist yn ein plith ni
 gwella yn dy law
Pwy’n wir sy’n medru dirnad
Y Duw a ddaeth yn ddyn
Fe roist dy nerth yn gyfan
Nes bod dim byd ar ôl
Dy groes a’r hoelion creulon
A aeth â’th einioes Di
Corws
At yr Un, y Gwir a’r Bywiol Dduw
Y cyntaf a’r amen
At yr Un, y Gwir a’r Bywiol Dduw
Y bo’r holl glod, amen
Pont 2
Fe fu dy gorff a dorrwyd
Am dridiau yn y bedd
Bu Duw yr holl oleuni
Mewn t’wyllwch yn ein lle
Ond geiriau y proffwydi
A fyddai’n dod yn wir
Cyfodwyd y Gwaredwr
Yn fyw i’w einioes Ef
Corws (X2)
Pennill 3
Pan fyddaf yn y nefoedd
Fe welaf i yn glir
Rhyfeddod y Creawdwr
Perffeithrwydd Twysog Hedd
Yn sanctaidd ddyrchafedig
O flaen fy llygaid i
Fe’th folaf Di yn awr a gwnaf am byth
Yr Un sy’n rhoi Dy einioes byw i mi
Dy einioes Di
Life and breath (Matt Redman, Mitch Wong, Paul Duncan a Quintin Trotter)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E Jones
© yn y trefniant hwn 2025 Centricity Music Publishing / That’s So Metal Music (Gwein. Capitol CMG Publishing) / Integrity Worship Music (ASCAP), Said And Done Music (ASCAP), Roman The 5th Music (BMI) (Gwein. at IntegratedRights.com) Bell Music Publishing / Original Wong Publishing (Gwein. Song Solutions www.songsolutions.org)
CCLI #7276722.
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint