Annwyl Iesu, diolch i ti,
daethost lawr o’r nefoedd fry;
ar y ddaear buost yn byw
bywyd llawn o gariad Duw.
Annwyl Iesu, diolch i ti,
buost farw drosof fi;
trwy dy farw a dy fyw
ti a rennaist gariad Duw.
Annwyl Iesu, diolch i ti,
nôl yn fyw y daethost ti;
ni all un peth yn fy myw
rwystro dim ar gariad Duw.
Annwyl Iesu, diolch i ti,
ti yw’r Iôr a’m Mrenin i;
rhoddaist bwrpas i fy myw
sef i rannu cariad Duw.
Annwyl Iesu, diolch i ti
Delyth Wyn
Defnyddiwyd gyda chaniatâd.
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint