Ti grëwr a chynhaliwr mawr y byd
Fe ddaethost, Fab y Dyn, i’n byd i fyw;
Mewn baban bach daeth cynllun Duw ynghyd
Gan ddangos inni ras a chariad Duw.
Rhyfeddu wnawn – buost farw drosom ni
Yn aberth drud, a ninnau’n haeddu dim;
Erioed ni welwyd cariad fel d’un di,
Yn dawel dioddefaist gosbi llym.
Ond byw yr wyt, fe ddathlwn ninnau’n awr,
Yn ôl o’r bedd y doist o farw’n fyw;
Dangosaist rym y Tad, ein Harglwydd mawr,
A chynnig cymod rhyngom ni a Duw.
O Iesu Grist, dyrchafu d’enw wnawn
Gan dystio i dy ras tuag atom ni:
I’th wasanaethu di fe rown bob dawn,
A boed i’r clod a’r mawl fod byth i ti.
Emyn y Pasg
Delyth Wyn
Defnyddiwyd gyda chaniatâd.
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint