Adenydd colomen pe cawn,
ehedwn a chrwydrwn ymhell,
i gopa bryn Nebo mi awn
i olwg ardaloedd sydd well;
a’m llygaid tu arall i’r dŵr,
mi dreuliwn fy nyddiau i ben
mewn hiraeth am weled y Gŵr
fu farw dan hoelion ar bren.
‘Rwy’n tynnu tuag ochor y dŵr,
bron gadael yr anial yn lân;
mi glywais am goncwest y Gŵr
a yfodd yr afon o’m blaen;
fe dreiglodd y maen oedd dan sêl,
fe gododd y Cadarn i’r lan;
fe’i caraf ef, deued a ddêl,
mae gobaith i’r truan a’r gwan.
Ni allaf tra bwyf yn y cnawd
ddim diodde’r caniadau sydd fry,
na llewyrch wynepryd fy Mrawd –
mae’n llawer rhy ddisglair i mi;
‘n ôl hedeg a gadael fy nyth,
a chuddio fy mhabell o glai,
bydd digon o nefoedd dros byth
ei weled ef fel ag y mae.
1, 3 THOMAS WILLIAM, 1761-1844; 2 JOHN WILLIAMS, 1728?-1806
(Caneuon Ffydd 749)
PowerPoint