Adenydd colomen pe cawn, ehedwn a chrwydrwn ymhell, i gopa bryn Nebo mi awn i olwg ardaloedd sydd well; a’m llygaid tu arall i’r dŵr, mi dreuliwn fy nyddiau i ben mewn hiraeth am weled y Gŵr fu farw dan hoelion ar bren. ‘Rwy’n tynnu tuag ochor y dŵr, bron gadael yr anial yn lân; […]
Pa feddwl, pa ‘madrodd, pa ddawn, pa dafod all osod i maes mor felys, mor helaeth, mor llawn, mor gryf yw ei gariad a’i ras? Afonydd sy’n rhedeg mor gryf na ddichon i bechod na bai wrthsefyll yn erbyn eu llif a’u llanw ardderchog di-drai. Fel fflamau angerddol o dân yw cariad f’Anwylyd o hyd; […]