logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Agorwch byrth, s’dim rhwystr yn bod

Agorwch byrth, s’dim rhwystr yn bod
Mae Arglwydd y Gogoniant yn dod,
Daw Brenin y brenhinoedd mawr
Yn geidwad i deyrnasoedd y llawr
Fe ddaw â iachawdwriaeth lawn;
Am hynny dathlwn, canwn fawl:
I Ti, fy Nuw, boed clod
Fy Nghrëwr doeth a mawr!

Mor deilwng yw ein Harglwydd cu
Mor addfwyn ydyw gyda ni
Sancteiddrwydd yw Ei goron Ef,
trugaredd ei deyrnwialen Ef;
Mae’n dod â’n holl ddioddefaint i ben
Am hynny, canwn fawl i’r nen:
I Ti, fy Nuw, boed clod
‘Ngwaredwr cryf a mawr!

Daw’r Brenin atom ni o’r nef
Boed bendith hael i’r wlad a’r dref Dyrchafwn ein calonnau fry
I’r Brenin ddaw i fyw ynom ni
Haul ein llawenydd ydyw Ef
Sy’n cynnig rhoi i ni ei hedd.
I Ti, fy Nuw, boed clod
‘Nghysurwr ddydd a nos

Tyrd Iesu, fy Ngwaredwr i,
A thriga yn fy nghalon i.
Tyrd atom ninnau yn dy ras;
I ni o’th gariad brofi blas
A boed i’th Ysbryd fod ar waith
I’n harwain ni ar hyd ein taith
Er mwyn dy enw, Iôr,
Rhown i Ti fythol glod!

Agorwch byrth, s’dim rhwystr yn bod
Macht hoch die Tür, die Tor macht weit (Georg Weissel, Johann Anastasius Freylinghausen)
Cyfieithiad Thora Tenbrink ac Arwel E Jones

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • November 20, 2024