Am air ein Duw rhown â’n holl fryd
soniarus fawl drwy’r eang fyd;
mae’n llusern bur i’n traed, heb goll,
mae’n llewyrch ar ein llwybrau oll.
Fe rydd i’n henaid esmwythâd,
fe’n tywys tua’r nefol wlad
gan ddangos cariad Un yn Dri
ac ennyn cariad ynom ni.
I’r cryf mae’n ymborth llawn o faeth,
i’r gweinion blant yn ddidwyll laeth;
rhydd ddysg a chysur yn ein gwaith
a nerth i gyrraedd pen y daith.
GOMER, 1773-1825
(Caneuon Ffydd 172)
PowerPoint