Am air ein Duw rhown â’n holl fryd soniarus fawl drwy’r eang fyd; mae’n llusern bur i’n traed, heb goll, mae’n llewyrch ar ein llwybrau oll. Fe rydd i’n henaid esmwythâd, fe’n tywys tua’r nefol wlad gan ddangos cariad Un yn Dri ac ennyn cariad ynom ni. I’r cryf mae’n ymborth llawn o faeth, i’r […]
Cyduned y nefolaidd gôr a llwythau dynol-ryw i ganu’n llon â llafar lef mai cariad ydyw Duw. Eglura gwirioneddau’i air, a’i drugareddau gwiw, ac angau Crist dros euog ddyn mai cariad ydyw Duw. Dwyn rhyfedd waith ei ras ymlaen mewn calon ddrwg ei lliw a ddengys drwy’r eglwysi oll mai cariad ydyw Duw. Derbyniad euog […]
Dechreuwch, weision Duw, y gân ddiddarfod, bêr; datgenwch enw mawr a gwaith a gras anhraethol Nêr. Am ei ffyddlondeb mawr dyrchefwch glod i’r nen: yr hwn a roes addewid lawn yw’r hwn a’i dwg i ben. Mae gair ei ras mor gryf â’r gair a wnaeth y nef; y llais sy’n treiglo’r sêr di-rif roes […]
Dewch, bawb sy’n caru enw’r Oen, deffrown alluoedd cân; i Frenin calon saint rhown fawl, ymgrymwn oll o’i flaen. Ein Brenin yw, a’n Ceidwad mawr, ein Priod mwyn, di-lyth; gogoniant hwn a leinw’r nef, ei deyrnas bery byth. Doed holl dafodau’r byd â chlod di-baid i’n Brenin glân, pan fyddo Crist yn destun mawl pwy […]
Gras, O’r fath beraidd sain, i’m clust hyfrydlais yw: gwna hwn i’r nef ddatseinio byth, a’r ddaear oll a glyw. Gras gynt a drefnodd ffordd i gadw euog fyd; llaw gras a welir ymhob rhan o’r ddyfais hon i gyd. Gras nododd f’enw i Yn Llyfr Bywyd Duw; A gras a’m rhoddodd i i’r Oen, Fu […]
O am deimlo cariad Iesu yn ein tynnu at ei waith, cariad cryf i gadw’i eiriau nes in gyrraedd pen ein taith; cariad fwrio ofnau allan, drygau cedyrn rhagddo’n ffoi fel na allo gallu’r fagddu beri inni’n ôl i droi. Ennyn ynom flam angerddol o rywogaeth nefol dân fel y gallom ddweud yn ebrwydd – […]
O Arglwydd gwêl dy was A phrawf fy nghalon i; Os gweli ynof anwir ffordd, I’r uniawn tywys fi. Os oes rhyw bechod cudd Yn llechu dan fy mron, O! Chwilia ‘nghalon drwyddi oll, A llwyr sancteiddia hon Yn Isräeliad gwir Gwna fi, heb dwyll na brad; A’m prif hyfrydwch yn fy Nuw, A’m cân […]